Rhyfeddu'r wyf, O Arglwydd cun! I ti fy ngalw erioed yn un, I maes o'r dorf annuwiol sy Yn lliwio'r ffordd i uffern ddu. 'D oedd neb ddaliasai'm henaid gwàn, I ddringo creigydd mawr i'r làn, A myn'd trwy lỳnoeddd dyfnion, chwith, Lle boddodd mil heb g'odi byth. Hyd yma dygaist fi yn rhodd, Nis gwn paham, ma gwn pa fodd, Ni fedrai neb ond ti yn wir, Fy arwain trwy'r fath anial dir. Wel, eto helpa f'enaid gwan, Nes dod o'r moroedd oll i'r làn, A chael fy nhraed ar sanctaidd dir, O fewn i gaerau'r ddinas bur. Yn fynych, fynych, Iesu cu, Dadguddia'th fod yn eiddo i mi; Mewn 'stormydd mawr yn wastad gâd Im' ddysgu llefain, Abba Dad! helpa :: cymmorth William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Wrth droi fy ngolwg yma'n awr |
I am wondering, O dear Lord! That thou shouldst call me as one, Out of the ungodly throng that are Colouring the road to black hell. No-one would keep my weak soul, Climbing up great rocks, And going through deep, awkward lakes, Where a thousand drowned without ever rising. So far thou hast drawn me as a gift, I know not why, nor know how, No-one but thee could truly, Lead me through the vast desert land. Then, still help my weak soul, Until coming up from all the seas, And getting my feet on sacred land, Within the fortresses of the pure city. Often, often, dear Jesus, Reveal that thou art belong to me; In great storms continually let Me learn to cry, Abba Father! :: tr. 2019 Richard B Gillion |
|